Arweinyddiaeth a Rheoli

Mae cynllun gwaith y WDPG yn cynnwys rhaglen ar gyfer hyfforddi arweinwyr a rheolwyr cryf ac effeithiol sy’n fedrus. Mae’r rhaglen yn cael ei hailddatblygu ar hyn o bryd gyda chefnogaeth yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae wedi’i bwriadu ar gyfer arweinwyr a rheolwyr presennol, ac ar gyfer pobl sydd am feithrin y sgiliau, yr wybodaeth a’r mathau o ymddygiad sydd eu hangen i reoli eu sefydliadau ac arwain gwaith ieuenctid ledled Cymru i’r dyfodol.

Mae gweithgor o gynrychiolwyr o sectorau ieuenctid gwirfoddol a statudol, SAU a Safonau Addysg a Hyfforddiant wedi gweithio ar y cyd gyda FPM i greu rhaglen wedi’i hanelu at arweinwyr a darpar arweinwyr yn y maes Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ymarfer arweinyddiaeth a rheoli o fewn gwasanaethau a sefydliadau, gan ddarparu fframwaith i archwilio'r ddwy thema, fe bod rheolwyr yn deall sut i arwain, cynnal a datblygu gwasanaethau sy'n cyfoethogi bywydau pobl ifanc yn well.  

Bydd y rhaglen yn cynnwys chwe diwrnod o hyfforddiant trylwyr a thrafodaeth grŵp. I gymryd rhan bydd angen i chi fod mewn rôl arwain a/neu reoli fel y gallwch brofi’r damcaniaethau a’r dysgu o’r rhaglen yn eich ymarfer eich hun. I gael blas o’r cynnwys cymerwch gip ar y ddolen yma

Mae Grŵp Llywio’r Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb yn awr gan hyfforddwyr profiadol i arwain y gwaith o gyflwyno’r rhaglen. Ddiddordeb? Cysylltwch â Steve Drowley, Cadeirydd ETS

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again