Dyddiad postio 12.4.22

Cyflwyno Addysgwyr Cymru

Mae gan bawb bwnc arbenigol a pwnc arbenigol Addysgwyr Cymru eu pwnc arbenigol yw helpu cysylltu unigolion sy’n chwilio am rôl yn y sector addysg â’r hyfforddiant, y cyngor gyrfa a mynediad at y swyddi sydd ar gael.

Mae ’r wefan am ddim, a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig tri phrif wasanaeth:

Os ydych chi am gymryd y cam cyntaf yn eich gyrfa, am symud ymlaen i’r cam nesaf, yn ystyried newid gyrfa, yn chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli neu efallai’n ystyried ail - ddechrau gweithio ar ôl ymddeol, yna Addysgwyr Cymru yw’r lle i gael mynediad at gyfleoed d gyrfa a swyddi llawn amser a rhan amser.

Eisiau gwybod mwy ?

Os ydych chi’n gwybod beth rydych chi’n chwilio amdano ac am ddechrau chwilio am rôl addysgu, porwch drwy’r swyddi gwag presennol ledled Cymru drwy fynd i’r dudalen Chwilio am Swydd Swyddi | Educators wales (addysgwyr.cymru)

Neu ymunwch â chronfa dalent Addysgwyr Cymru fel bod cyflogwyr yn gallu dod o hyd i chi’n rhwydd. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cofrestru ar y porth a dewis geiriau allweddol, teitlau swydd a lleoliadau o’ch dewis, fel y gall cyflogwyr gysylltu â chi ar sail eich addasrwydd.

Neu os ydych chi ar fin dechrau g yrfa ym myd addysg, tarwch olwg ar yr adnoddau datblygu proffesiynol ar wefan Addysgwyr Cymru a chael cyngor ar ei ch cam nesaf Hafan | Educators wales (addysgwyr.cymru)

Yn ôl i'r dudalen blaenorol

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again