Cydnabod gweithwyr ieuenctid yn unigol

I’r rhai ymgymhwysodd yn y maes hwn y tu allan i’r Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.


Mae Cydnabod Unigol yn gynllun sy’n cael ei weinyddu gan aelodau Fforwm ETS y DG ac Iwerddon: ETS (Lloegr), ETS (Cymru), y North-South ETS (Iwerddon i gyd), a’r CLD (Yr Alban).

Prif nod y cynllun yw galluogi pobl sydd wedi ymgymhwyso ym maes gwaith ieuenctid y tu allan i’r Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon i gael eu cydnabod yn staff ieuenctid proffesiynol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a’r Alban.

Dylai pob gweithiwr o’r fath gyflwyno cais i ETS am gydnabyddiaeth yn y wlad mae’n bwriadu gweithio ynddi.


Mae rhagor o wybodaeth ar siart rediad y broses ac yn y canllawiau.  Codir tâl am brosesu’r cais, fel arfer.

Dim ond yn y Saesneg mae'r ddogfen hon ar gael

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again