Nod Ansawdd Gwasanaethau Ieuenctid
Mae’r Marc Ansawdd yn adnodd unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill Marc Ansawdd am waith ieuenctid. Mae’n cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella mewn darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwaith ieuenctid, gan ddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.
O fis Ionawr 2020, bydd y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (y Marc Ansawdd) yn cael ei gyflwyno a’i ddatblygu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru.