||

Gweithio gydag ETS Cymru

4737178Mae’r syniad o adolygu trwy gymheiriaid wrth wraidd gwaith ETS Cymru.  Mae adolygu o’r fath yn rhoi hygrededd i’r hyfforddiant a’r cymeradwyo fel ei gilydd ac yn annog pawb i fod yn gyfrifol ac yn atebol ar y cyd am gydnabyddiaeth broffesiynol.

Mae modd gweithio gydag ETS Cymru trwy wirfoddoli i fod yn aelod o’r paneli fydd yn ymweld â sefydliadau a mudiadau i roi sêl eu bendith ar eu gwaith neu trwy gyflwyno eich enw ar gyfer unrhyw is-bwyllgor a allai gael ei sefydlu (i lunio/adlunio canllawiau, er enghraifft).  Os oes diddordeb gyda chi yng ngwaith ETS Cymru, cysylltwch â ni.

 

Ymgynghorwyr

Byddwn ni’n cynnig gwaith i ymgynghorwyr o bryd i’w gilydd, hefyd.  Os oes diddordeb gyda chi mewn gwaith o’r fath, darllenwch y dogfennau sydd wedi’u hatodi.

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again