Cymwysterau gwaith ieuenctid
Cymwysterau proffesiynol a chymwysterau cyn cyrraedd statws proffesiynol.
Cymwysterau proffesiynol
Gweithwyr ieuenctid a chymuned sydd wedi ymgymhwyso’n broffesiynol
Mae’r dosbarth hwn yn ymwneud â graddau cyflogau gweithwyr ieuenctid a chymuned cymwysedig sy’n gyfrifol am gyflawni, llunio a datblygu gwaith ymhlith yr ifainc. Gall fod disgwyl iddyn nhw ysgwyddo cyfrifoldeb am reoli gwaith o’r fath, hefyd.
Cymwysterau cyn cyrraedd statws proffesiynol
Gweithwyr cymorth ieuenctid a chymuned
Mae’r rhan gyntaf o’r dosbarth hwn yn ymwneud â graddau cyflogau’r rhai sy’n helpu i gyflawni gwaith ymhlith yr ifainc ac yn y gymuned. Bydd gweithwyr o’r fath o dan oruchwyliaeth gweithwyr ieuenctid a chymuned cymwysedig neu, lle bo’n briodol, gweithwyr cymorth ieuenctid a chymuned sy’n gyfrifol am oruchwylio prosiectau bychain megis cwrdd un noson yr wythnos mewn clwb (gweler isod).
Yn yr ail ran o’r dosbarth hwn, mae graddau cyflogau pob gweithiwr cymorth ieuenctid a chymuned sy’n gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun neu’n gyfrifol am oruchwylio prosiectau bychain megis cwrdd un noson yr wythnos mewn clwb. Bydd gweithwyr ac arnyn nhw gyfrifoldebau o’r fath yn cael eu goruchwylio gan weithwyr ieuenctid a chymuned cymwysedig.
Mae’r Cydbwyllgor Negodi yn disgwyl i staff gwaith ieuenctid fod o dan oruchwyliaeth gweithwyr ieuenctid cymwysedig.
Er bod y Cydbwyllgor Negodi wedi pennu’r cymwysterau lleiaf, rydyn ni’n annog pob cyflogwr yn gryf i gynnig llwybrau datblygu proffesiynol parhaus i weithwyr sy’n perthyn i’r dosbarth hwn trwy fanteisio ar Ddiploma Lefel 3 ‘Arferion Gwaith Ieuenctid’. Fel hyn, gall datblygu proffesiynol parhaus helpu’r rhai a hoffai ddatblygu gyrfa yn y maes hwn fel y gallan nhw astudio ar gyfer cymhwyster proffesiynol mewn prifysgol.